English

Ymgynghorol

Mae Mabis wedi datblygu enw da yn gyflym yn y maes ymgynghorol am ddarparu gwasanaethau ac atebion newydd a blaengar.  Mae'n gwasanaethau ymgynghorol yn unigryw gan ein bod yn gallu tynnu ar ein profiad uniongyrchol o weithio gyda busnesau, unigolion a chymunedau ar draws Cymru drwy Menter a Busnes ers 1989.

Mae'n gwasanaethau yn cynnwys:

  • Gwasanaethau Monitro, Arfarnu a Gwerthuso
  • Gwasanaethau Ymchwil a Datblygu

Darperir y gwasanaethau hyn trwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau gan gynnwys ymchwil desg, holiaduron ffôn a phost, cyfweliadau, gweithdai, grwpiau ffocws, ayb - a gellir darparu'r rhain i gyd yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

Gallwch weld enghreifftiau o’r ystod eang o waith yr ydym yn ei gyflawni yn ogystal â’r arbenigedd sydd ar gael trwy glicio ar y linc i’n tîm ymgynghorol a phrosiectau diweddar.