English

Marchnata

Atebion Blaengar ar gyfer eich anghenion Marchnata chi.

Mae rhedeg busnes yn cymryd llawer o amser ac egni, ac yn gofyn am ystod eang o sgiliau megis rheoli, ariannol, gweinyddol, gwerthu a marchnata. Ar adegau mae'n hawdd colli adnabod ar bwy yw eich cwsmeriaid, sut i ddiwallu eu hanghenion a sut i’w cyrraedd. Mae nifer o ffyrdd y gallwch eu defnyddio i gyfathrebu gyda’ch darpar gwsmeriaid, ond mae’n gallu bod yn anodd dewis y technegau mwyaf effeithiol ar gyfer eich busnes chi. 

 
Cliciwch ar y linciau am wybodaeth bellach ar sut all Mabis Marchnata helpu eich busnes. 

Un cam ar y blaen…

Heb gwsmeriaid nid oes gennych fusnes ac mae diwallu eu anghenion a gwneud hynny yn broffidiol yn hanfodol ar gyfer gyrru eich busnes. Er mwyn datblygu mae angen bod un cam ar y blaen o’ch cystadleuwyr ac i wneud hynny yn effeithiol mae cynllunio’ch marchnata yn bwysig. Gall Mabis Marchnata eich helpu i ddatblygu cynlluniau a strategaethau marchnata i ddiwallu anghenion eich busnes - boed hynny i lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd; dechrau neu ddatblygu eich busnes.