English

Iaith - Gwasanaethau Cyfieithu

Cyswllt:

iaith@mabis.co.uk
 
Ff  0845 009 0458

Sefydlwyd Mabis Iaith i fod yn asiantaeth safonol o gyfieithwyr profiadol. Mae gennym rwydwaith eang o gyfieithwyr cymwys o’r safon uchaf sydd wedi cwblhau ac ennill cymhwyster proffesiynol yn y maes.  Mae ein haelodau yn dod o bob rhan o Gymru sydd yn fanteisiol er mwyn gallu cynnig gwasanaeth cynhwysfawr gan gyfieithwyr lleol pe bai angen, yn ogystal â chynnig gwasanaeth arbenigol mewn sector neu faes penodol, e.e. addysg, busnes, amaeth, iechyd ag ati.

Mae rhwydwaith eang o gyfieithwyr yn ein galluogi i reoli llif gwaith ac yn sicrhau nad yw un cyfieithydd yn cael ei orlwytho ac felly yn gallu cadarnhau safon uchel o waith. Mae ein cyfieithwyr hefyd yn ymwybodol o newidiadau mewn terminoleg ac yn cael eu hannog i rannu gwybodaeth a therminoleg yn gyson trwy amrywiol ffyrdd

Mae Mabis Iaith yn credu’n gryf mewn gweithio’n agos gyda chleientiaid i greu’r awyrgylch/arddull a’r geiriad cywir ym mhob cyfieithiad.