English

Amser

Yn rhedeg eich swyddfa tra bo chi’n rhedeg eich busnes.

Gall fod yn anodd ceisio cadw mewn cysylltiad gyda’ch cwsmeriaid, yn enwedig os oes gwaith yn galw a neb arall ar gael i ateb y ffôn a chymryd negeseuon. 

Mae swyddfa rithiwr (virtual office) Mabis Amser yn cynnig manteision swyddfa heb orfod talu costau gorbenion uchel - a heb yr angen i chi fod yna.  

Mae Mabis Amser yn cynnig gwasanaeth wedi ei deilwra at anghenion eich busnes chi, gan gynnwys:-

  • Galwadau ffôn wedi’u hateb yn enw’ch busnes pan nad ydych chi ar gael
  • Unrhyw negeseuon wedi’u gyrru ymlaen i chi yn syth
  • Cyfeiriad busnes, mewn unrhyw un o bum lleoliad adnabyddus ar draws Cymru, gyda phost wedi’i ddanfon ymlaen i chi
  • Staff dwyieithog proffesiynol