Pobl a'r Gweithle
Atebion blaengar ar gyfer y gweithlu a'r gweithle
Adnoddau Dynol
Nid oes angen i faterion personel a chyflogi staff fod yn faich, fe allwn ni ddarparu cymorth ar gyfer amrediad eang o gleientiaid – yn gwmni meicro, bach a chanolig ei faint neu'n sefydliad / asiantaeth. Os ydych yn cyflogi am y tro cyntaf neu eisiau cyngor ar eich sustemau personel presennol, mae Mabis yn ymfalchio mewn darparu gwasanaethau hyblyg ac atebion ymarferol, sydd wedi eu teilwra yn benodol ar gyfer eich anghenion.
Os ydych angen cyngor ar agwedd benodol o bersonél neu eisiau i ni weithio ochr yn ochr â chi ar lefel mwy hir dymor a chymryd cyfrifoldeb am elfennau penodol, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.
Iechyd a Diogelwch
Ydych chi’n ansicr os yw eich busnes yn cydymffurfio gyda deddfwriaethau Iechyd a Diogelwch?
Gall Mabis helpu busnesau bychain a chanolig i gyfarfod â gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn y gweithle yn ogystal â chynnig cefnogaeth i ddatblygu cynlluniau ac ymarfer da yng nghyd-destun iechyd a diogelwch.
Cymhwyster NEBOSH / aelod cyswllt IOSH 110577