Cyflwyniad i Mabis
Mae Mabis yn cydnabod nad oes dau fusnes run fath, ac am yr angen i ddarparu gwasanaethau perthnasol er mwyn ateb anghenion busnesau. Os ydych yn rhedeg busnes bach neu fawr, yn asiantaeth neu gorff cyhoeddus, mae gennym amrediad o wasanaethau yn cynnig atebion blaengar ar gyfer eich anghenion chi.
Darperir ystod o wasanaethau busnes ac ymgynghorol - cliciwch ar yr adrannau perthnasol uchod am wybodaeth bellach. Mae Mabis yn ffurfio rhan o grŵp Menter a Busnes, ac felly yn manteisio ar ystod eang o sgiliau a phrofiadau ein staff sydd wedi eu datblygu ers ffurfio’r cwmni ym 1989.
Yn gweithredu trwy Gymru ein harbenigedd yw darparu gwasanaethau dwyieithog, o safon ac o fewn amser fel eich bod chi yn gallu canolbwyntio ar wneud y pethau dydd i ddydd o fewn eich busnes.
Ff 0845 009 0458